Hebrews 9:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid os gwaed teirw, a’ geifr a lludw heffr, wedi y danu ar y llygredigion, a deilynga ar ran puredd y knawd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os gwaed geifr a theirw, a lludw anner yn taenellu y rhai a halogwyd, a sancteiddiai i lanhad y cnawd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os yw gwaed geifr a theirw a lludw anner ar daen ar yr halogion yn dihalogi cyn belled â glanhad y cnawd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gwaed geifr a theirw yn cael ei daenellu, a lludw'r heffer yn cael ei wasgaru, er mwyn gwneud y bobl oedd yn aflan yn lân yn seremonïol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid os yw gwaed geifr a theirw, a lludw anner, o'i daenu ar yr halogedig, yn sancteiddio hyd at buredigaeth allanol,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os ydyw gwaed geifr a theirw a lludw anner yn taenellu y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i lanhâd y cnawd,