Hebrews 9:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O ba vaint mwy, y pura gwaed Christ, rrwn trwy yr Ysbryd tragowydd ay offrymmawdd ef y hun yn ddifai y Ddyw, ych cydwybod chwi, oddiwrth veirwon weithredoedd, y wasneuthu Dyw byw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr Hwn trwy’r Yspryd Tragywyddol a offrymmodd Ef Ei hun yn ddianaf i Dduw, lanhau eich cydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw Byw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pa faint mwy y bydd gwaed Crist a’i hoffrymodd ei hun drwy ysbryd tragwyddol yn ddi-fefl i Dduw, yn glanhau ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon i wasanaethu Duw byw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy'r Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae gwaed y Meseia yn cyflawni llawer iawn mwy — mae'n glanhau'r gydwybod o'r pethau sy'n arwain i farwolaeth. Felly gallwn ni wasanaethu'r Duw byw! Mae'r Meseia wedi cyflwyno ei hun yn aberth perffaith i Dduw drwy nerth yr Ysbryd tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pa faint mwy y bydd gwaed Crist, yr hwn a'i hoffrymodd ei hun trwy'r Ysbryd tragwyddol yn ddi-nam i Dduw, yn puro ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pa faint mwy y bydd i waed y Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, lanhau eich cydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw?