Hebrews 9:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hynny y may ef yn gyfrwngwr, y Testamēt newydd, megis trwy farfolaeth rron oedd ir gollyngdod y camweddau oeddent tan y Testament cyntaf, y derbyniay yr rrai oeð wedi eu galw, addewid yr etyveddieth tragwyddawl. Yr Epistol ar ddie merchur cyn y Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac o herwydd hyn i gyfammod newydd y mae Efe yn Gyfryngwr, fel, marwolaeth wedi digwydd er prynedigaeth y troseddau tan y cyfammod cyntaf, y derbyniai y rhai a alwyd addewid yr etifeddiaeth dragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfryngwr cyfamod newydd ydyw oherwydd hyn, — fel, wedi bod marwolaeth er rhyddhad oddi wrth y camweddau dan y cyfamod cyntaf, y derbynio’r rhai a alwyd eu haddewid, sef yr etifeddiaeth dragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi'r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam mai fe ydy'r canolwr sy'n selio'r ymrwymiad newydd. Buodd farw i dalu'r pris i ollwng pobl yn rhydd o ganlyniadau'r pechodau gafodd eu cyflawni dan y drefn gyntaf — er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw dderbyn yr holl fendithion tragwyddol mae wedi eu haddo iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, y mae ef yn gyfryngwr cyfamod newydd, er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw gael derbyn yr etifeddiaeth dragwyddol a addawyd, gan fod marwolaeth wedi digwydd er sicrhau rhyddhad oddi wrth y troseddau a gyflawnwyd dan y cyfamod cyntaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o herwydd hyn y mae Efe yn Gyfryngwr Cyfamod Newydd fel wedi i farwolaeth gymeryd lle gyda golwg ar brynedigaeth oddiwrth y troseddau yn erbyn y cyfamod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.