Hebrews 9:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pan ddarffai i Voyses draythur gorchymyn y gyd achlan ir holl bobl, wrth y gyfraith, ef gymerai waed lloi au a’ geifr, cyd a gwlan pwrpwlac ysop, ac ai taynellei ar y llyfr, a’r bobl oll,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys wedi adrodd pob gorchymyn yn ol y Gyfraith gan Mosheh i’r holl bobl, wedi cymmeryd gwaed y lloi a’r geifr, gyda dwfr a gwlân porphor ac hussop, ar y llyfr ei hun a’r holl bobl y taenellodd efe, gan ddywedyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys wedi cyhoeddi o Foses bob gorchymyn yn ôl y gyfraith i’r holl bobl, cymerodd ef waed y lloi a’r geifr gyda dŵr a gwlân porffor ac isop, a thaenellodd y llyfr a’r holl bobl hefyd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a'i taenellodd ar y llyfr a'r bobl oll,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i Moses ddweud wrth y bobl beth oedd pob un o orchmynion Cyfraith Duw, defnyddiodd frigau isop wedi eu rhwymo gyda gwlân ysgarlad i daenellu dŵr a gwaed lloi a geifr ar y sgrôl o'r Gyfraith ac ar y bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid ar l i Moses gyhoeddi i'r holl bobl bob gorchymyn yn l y Gyfraith, cymerodd waed lloi a geifr, gyda du373?r a gwln ysgarlad ac isop, a'i daenellu ar y llyfr ei hun ac ar yr holl bobl hefyd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys wedi llefaru pob gorchymyn yn ol y Gyfraith gan Moses wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr a gwlan porphor ac isop, ac a daenellodd y llyfr ei hun, ynghyd a'r holl bobl,