Hebrews 9:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid y Tabernacl oedd wedi y gwneuthyd y gyntaf, yn yr hwn y roedd y canwyllbren, a’r bordd, ar bara dangos, rhvvn dabernacl a elwid y lle sanctaidd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys tabernacl a barottowyd, sef y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a gosodiad y bara ger bron, yr hwn dabernacl a elwir,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys yr oedd pabell wedi ei chodi, y gyntaf, lle yr oedd y canhwyllbren a’r bwrdd a gosodiad y bara, — dyma’r lle a elwir yn Gysegr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a'r bwrdd, a'r bara gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd dwy ystafell yn y babell. Yn yr ystafell allanol roedd y ganhwyllbren a hefyd y bwrdd gyda'r bara wedi ei gysegru arno — dyma oedd yn cael ei alw ‛Y Lle Sanctaidd‛.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid codwyd pabell, sef y gyntaf, ac ynddi hi yr oedd y canhwyllbren a'r bwrdd a'r bara gosod; gelwir hon yn Gysegr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys tabernacl a ddodrefnwyd, y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canwyllyr, a'r bwrdd, a'r bara gosod; yr hwn a elwir y Cysegr.