Hebrews 9:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan ddoydyd, hwn yw gwaed y Testament, rrwn a orchmynawdd Dyw y chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Hwn yw gwaed y cyfammod a orchymynodd Duw tuag attoch.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedyd, “Dyma waed y cyfamod a osododd Duw arnoch chwi;”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r gwaed yma yn cadarnhau'r ymrwymiad mae Duw wedi ei wneud i chi ei gadw,” meddai wrthyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud, "Hwn yw gwaed y cyfamod a ordeiniodd Duw ar eich cyfer."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y cyfamod a orchymynodd Duw mewn perthynas i chwi.