Hebrews 9:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phob peth gan mwyaf ar ol y gyfraith trwy waed y purir hvvynt, ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac â gwaed bron pob peth a lanheir yn ol y Gyfraith, ac heb dywallt gwaed nid oes maddeuant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bron na ddywedwn mai â gwaed y glanheir popeth yn ôl y gyfraith, a heb ollwng gwaed ni cheir maddeuant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I ddweud y gwir, mae Cyfraith Moses yn dweud fod bron popeth i gael ei buro trwy gael ei daenellu â gwaed, a bod maddeuant ddim yn bosib heb i waed gael ei dywallt.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, gwaed y mae pob peth bron, yn l y Gyfraith, yn cael ei buro, a heb dywallt gwaed nid oes maddeuant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bron y dywedwn mai â gwaed y glanhêir pob peth yn ol y Gyfraith, ac ar wahan i dywallt gwaed nid oes maddeuant.