Hebrews 9:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny angenrreidiol ydoedd y bortreiadau y pethau sy yn y nefoed gael y puro ar pethau hyn: y pethau nefawl y hunain a burit ac aberthay gwell nor rrain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhaid oedd, gan hyny, i bortreiadau y pethau yn y nefoedd gael eu glanhau â’r rhai hyn; ond y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhaid oedd, felly, i gysgodau’r pethau yn y nefoedd gael eu glanhau â’r pethau hyn, ond y nefolion bethau eu hunain ag aberthau gwell rhagor y rhain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau'r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â'r pethau hyn; a'r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhaid i'r pethau hynny i gyd gael eu puro gan waed yr aberthau. Ond dim ond copïau o'r pethau nefol ydyn nhw, ac mae angen aberthau gwell nag anifeiliaid i buro'r rheiny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, yr oedd yn rhaid i gysgodau o'r pethau nefol gael eu puro 'r pethau hyn, ond y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Rhaid oedd gan hynny i'r adluniau sydd yn y nefoedd gael eu glanhau â'r pethau hyn, eithr y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn.