Hebrews 9:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys nid ir cyssegr fa o waith llaw ir aeth Christ y mewn, rrwn sydd bortreiad ir gwir cyssegr: eithr ef aeth ir nefoedd y ymddangos yn awr yn golwc Dyw trosom ni,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid i gyssegr o waith llaw yr aeth Crist i mewn, gwrth-lun y gwir gyssegr, eithr i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid i gysegr o waith llaw, cyffelybiaeth y gwir bethau, yr aeth Crist i mewn, ond i’r nef ei hun i’w weled yn awr yn eglur gerbron Duw drosom ni;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid i'r cysegr o waith llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth y Meseia i mewn i'r nefoedd ei hun, lle mae'n ymddangos o flaen Duw ar ein rhan ni. Dim i'r cysegr wedi ei godi gan bobl aeth e — gan fod hwnnw'n ddim byd ond copi o'r un nefol go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid i gysegr o waith llaw, rhyw lun o'r cysegr gwirioneddol, yr aeth Crist i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw drosom ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid i gysegr o waith llaw, gwrthlun y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos ger bron wyneb Duw drosom ni;