Hebrews 9:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nid yw offrymu y hun yn fynych, mal y may yr archeffeiriad yn myned y mewn ir cyssegr fa bob blwyddyn a chantho waed dierth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid fel yn fynych yr offrymmai Ef Ei hun, fel y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cyssegr bod blwyddyn â gwaed arall,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac nid i’w offrymu ei hun lawer gwaith, fel y bydd yr archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn â gwaed un arall,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis y mae'r archoffeiriad yn myned i mewn i'r cysegr bob blwyddyn, â gwaed arall:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A wnaeth e ddim mynd i mewn i'r nefoedd lawer gwaith i offrymu ei hun (fel yr archoffeiriaid eraill oedd yn gorfod mynd â gwaed anifail i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac nid i'w offrymu ei hun yn fynych y mae'n mynd, fel y bydd yr archoffeiriad yn mynd i mewn i'r cysegr bob blwyddyn gwaed arall na'r eiddo ei hun;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nac eto fel yr offrymai ei hun yn fynych fel y mae yr Arch‐offeiriad yn myned i mewn i'r Cysegr bob blwyddyn â gwaed dyeithr;