Hebrews 9:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(O blegid velly y biase raid iddo ddiodde yn fynych o ddechreuad y byd) eythr yn awr vnwaiih yn diwedd y byd ir ymddangos es ef y ddif l annu pechod trwy y aberthu y hunan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys rhaid fuasai Iddo yn fynych ddioddef er seiliad y byd; ond yn awr, un waith am byth, yn niwedd yr oesoedd, er diddymmiad pechod trwy yr aberth o Hono Ei hun, yr amlygwyd Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys yna rhaid fuasai iddo ddioddef lawer gwaith er seiliad y byd; ond yn awr unwaith am byth, ar gyflawnhad yr oesau, y mae ef wedi ei ddatguddio er diddymiad pechod drwy ei aberth ei hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Oblegid yna rhaid fuasai iddo'n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Petai'n rhaid iddo wneud hynny, byddai wedi gorfod marw lawer gwaith ers i'r byd gael ei greu! Na! daeth y Meseia un waith ac am byth, yn agos at ddiwedd yr oesoedd, i ddelio gyda phechod drwy ei aberthu ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
petai felly, buasai wedi gorfod dioddef yn fynych er seiliad y byd. Ond yn awr, un waith am byth, ar ddiwedd yr oesoedd, y mae ef wedi ymddangos er mwyn dileu pechod drwy ei aberthu ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pe amgen rhaid fuasai iddo fod wedi dyoddef yn fynych er seiliad y byd; ond yn awr, unwaith am byth, yng nghyflawniad yr oesoedd, y mae efe wedi ei amlygu er dileu pechod trwy ei aberth ei hun.