Hebrews 9:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly Christ hevyd a aberthwyt vnwaith y doddi pechodeu llawer, yr ail waith heb ddim pechod ir ymddengis ef ir rrai sy yn y ddiscwyl, ir iechaid yddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
farw, ac wedi hyny farn, felly hefyd Crist, un waith am byth wedi Ei offrymmu, i ddwyn pechodau llawer, ail waith, yn wahan oddiwrth bechod yr ymddengys i’r rhai sydd yn Ei ddisgwyl er iachawdwriaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
felly Crist hefyd wedi ei offrymu un waith i ddwyn arno bechodau llaweroedd, a ymddengys yr ail waith heb berthynas â phechod i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl er iachawdwriaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i'r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
buodd y Meseia farw un waith yn aberth, a chario pechodau llawer iawn o bobl iddyn nhw gael eu maddau. A bydd yn dod yn ôl yr ail waith, dim i ddelio gyda phechod y tro hwn, ond i achub pawb sy'n disgwyl yn frwd amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
felly hefyd bydd Crist, ar l cael ei offrymu un waith i ddwyn pechodau llawer, yn ymddangos yr ail waith, nid i ddelio phechod, ond er iachawdwriaeth i'r rhai sydd yn disgwyl amdano.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
felly hefyd y Crist, wedi ei offrymu unwaith, i ddwyn pechodau llawer, a welir yr ail waith heb bechod, gan y rhai sydd yn awyddus‐ddisgwyl am dano, er iachawdwriaeth.