Hebrews 9:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Llei roedd y senser aur, ac arch y Testament wedi y goreuro oi hamgylch, yn yr hon yr oedd y krochan aur ar manna yntho, a’ gwialen Aaron, rron a vlagurasei, a thablay y Testament.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Y Cyssegr Sancteiddioliaf,” a chanddo thuser aur ac arch y cyfammod wedi ei goreuro o amgylch, yn yr hon y mae crochan aur ag ynddo y manna, a gwialen Aaron,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac ynddi thuser aur, ac arch y cyfamod wedi ei gorchuddio drosti ag aur, ac yn hon yr oedd llestr aur yn dal y manna, a gwialen Aaron a flagurodd unwaith, a llechau’r cyfamod,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a'r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau'r cyfamod:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn yr ystafell fewnol roedd allor yr arogldarth ac arch yr ymrwymiad (cist bren oedd wedi ei gorchuddio ag aur). Yn y gist roedd jar aur yn dal peth o'r manna o'r anialwch, hefyd ffon Aaron (sef yr un oedd wedi blaguro), a'r ddwy lechen roedd Duw wedi ysgrifennu'r Deg Gorchymyn arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
lle'r oedd allor aur yr arogldarth, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro drosti i gyd; yn honno yr oedd llestr aur yn dal y manna, a gwialen Aaron, a flagurodd unwaith, a llechau'r cyfamod;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn yr hwn yr oedd allor aur yr arogldarth, ac arch y Cyfamod wedi ei goreuro o amgylch, yn yr hon yr oedd y crochan aur yn dal y manna, a gwialen Aaron, yr hon a flagurodd, a llechau y Cyfamod;