Hebrews 9:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wedi gosod yr rrain mewn ordr y sut yma, ir Tabernacl cynta yn wir y rai bop amser yr effeiriad, sy yn gwasneuthu yr creuydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r pethau hyn wedi eu parottoi felly, i’r tabernacl cyntaf yn wastadol yr â’r offeiriaid i mewn, yn cyflawni’r gwasanaethau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, fe â’r offeiriaid yn eu swydd wrth eu gwasanaeth i mewn i’r babell gyntaf bob amser;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gyda popeth wedi ei osod yn ei le, roedd yr offeiriaid yn mynd i mewn i'r ystafell allanol yn rheolaidd i wneud eu gwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn l y trefniadau hyn, y mae'r offeiriaid yn mynd i mewn yn barhaus i'r babell gyntaf i gyflawni'r gwasanaethau;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yr ä yn wastadol yr offeiriaid, gan gyflawni y gwasanaethau;