Hebrews 9:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ir ail yn wir y rai vnwaith bob blwyddyn yr archeffeiriad yn vnig, nid heb waed rrwn a offrymmay ef trosto y hun, a thros anwybodaethe y bobl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond i’r ail, un waith yn y flwyddyn, yr arch-offeiriad ar ei ben ei hun, nid heb waed, yr hwn a offrwm efe drosto ei hun, ac am gyfeiliornadau’r bobl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond i’r ail unwaith yn y flwyddyn yr â’r archoffeiriad, ac nid neb arall, a hynny nid heb waed, sef ei offrwm drosto’i hun a thros gyfeiliornadau’r bobl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i'r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi'r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto'i hun, a thros anwybodaeth y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dim ond yr archoffeiriad oedd yn mynd i mewn i'r ystafell fewnol, a hynny unwaith y flwyddyn yn unig. Ac roedd rhaid iddo fynd â gwaed gydag e, i'w gyflwyno i Dduw dros ei bechodau ei hun a hefyd y pechodau hynny roedd pobl wedi eu cyflawni heb sylweddoli eu bod nhw'n pechu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond yr archoffeiriad yn unig sy'n mynd i'r ail, unwaith yn y flwyddyn, ac nid yw yntau'n mynd heb waed i'w offrymu drosto'i hun a thros bechodau anfwriadol y bobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond i'r ail, unwaith yn y flwyddyn, yr a yr Arch‐offeiriad yn unig, nid heb waed, yr hwn a offryma drosto ei hun a thros gyfeiliornadau y bobl —