Hosea 1:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dechrau ymadrodd yr ARGLWYDD trwy Hosea. Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Hosea, Dos, cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddechreuodd yr ARGLWYDD siarad drwy Hosea, dwedodd wrtho: “Dos, a priodi gwraig sy'n puteinio. Bydd hi'n puteinio ac yn cael plant siawns. Mae fel y wlad yma, sy'n puteinio o hyd drwy droi cefn arna i, yr ARGLWYDD.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, "Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD."