Hosea 10:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Effraim fel heffer wedi ei hyfforddi, ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn. Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf, a gêr i wneud i Effraim aredig. Bydd rhaid i Jwda aredig a Jacob lyfnu'r tir ei hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Heffer wedi ei thorri i mewn yw Effraim; y mae'n hoff o ddyrnu; gosodaf iau ar ei gwar deg, a rhof Effraim mewn harnais; bydd Jwda yn aredig, a Jacob yn llyfnu iddo.