Hosea 10:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr ARGLWYDD, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Heuwch hadau cyfiawnder, a chewch gynhaeaf o gariad gen i. Trin tir eich calon galed — ceisio'r ARGLWYDD nes iddo ddod gyda chawodydd achubiaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Heuwch gyfiawnder, a byddwch yn medi ffyddlondeb; triniwch i chwi fraenar; y mae'n bryd ceisio'r ARGLWYDD, iddo ddod a glawio cyfiawnder arnoch.