Hosea 10:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n llawn geiriau gwag, addewidion wedi eu torri, a chytundebau diwerth. Mae achosion llys yn lledu fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi ei aredig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llefaru geiriau y maent, a gwneud cyfamod llwon ffals. Y mae barn yn codi fel chwyn gwenwynllyd yn rhychau'r maes.