Hosea 10:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Preswylwyr Samaria a ofnant oherwydd lloeau Beth‐afen; canys ei bobl a alara drosto, a'i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl Samaria yn ofni beth ddigwydd i lo Beth-afen. Bydd y bobl yn galaru gyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu, am fod ei ysblander wedi ei gipio,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae trigolion Samaria yn crynu o achos llo Beth-afen. Y mae ei bobl yn galaru amdano, a'i eilun-offeiriaid yn wylofain amdano, am i'w ogoniant ymadael oddi wrtho.