Hosea 10:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau: a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio — sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu. Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau. Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni!” ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnon ni!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Distrywir uchelfeydd Beth-afen, pechod Israel; tyf drain a mieri ar eu hallorau; a dywedant wrth y mynyddoedd, "Cuddiwch ni", ac wrth y bryniau, "Syrthiwch arnom".