Hosea 11:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa fodd y'th roddaf ymaith, Effraim? y'th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y'th wnaf fel Adma? ac y'th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a'm hedifeirwch a gydgyneuwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sut alla i dy roi heibio, Effraim? Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel? Sut alla i dy roi heibio fel Adma? Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm? Na, dw i wedi newid fy meddwl! Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim, a'th roi ymaith, Israel? Pa fodd y'th wnaf fel Adma, a'th osod fel Seboim? Newidiodd fy meddwl ynof; enynnodd fy nhosturi hefyd.