Hosea 12:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy Gilead yn addoli eilunod? Ydy, a does dim dyfodol i'w phobl! Ydyn nhw'n aberthu teirw yn Gilgal? Ydynt, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrig mewn cae wedi ei aredig!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am fod eilunod yn Gilead, pethau cwbl ddiddim; am fod aberthu teirw yn Gilgal, bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrig ar rychau'r meysydd."