Hosea 12:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae Effraim yn brolio: “Dw i'n gyfoethog! Dw i wedi gwneud arian mawr! A does neb yn gallu gweld y twyll, neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Effraim, "Yn wir, 'rwy'n gyfoethog, ac enillais olud; yn fy holl enillion ni cheir na drygioni na phechod."