Hosea 13:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon ychwanegasant bechu, ac o'u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eilunod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dywedyd, Y rhai a aberthant, cusanant y lloi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac maen nhw'n dal i bechu! Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd; eilunod cywrain wedi eu gwneud o arian — ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy'r cwbl! Mae yna ddywediad amdanyn nhw: “Mae'r bobl sy'n aberthu yn cusanu teirw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn awr y maent yn pechu ychwaneg; gwnnt iddynt eu hunain ddelw dawdd, eilunod cywrain o arian, y cyfan yn waith crefftwyr. "Aberthwch i'r rhai hyn," meddant. Pobl yn cusanu lloi!