Hosea 13:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difâf hwynt: bwystfil y maes a'u llarpia hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n ymosod arnyn nhw fel arth wedi colli ei chenawon; a'i llarpio nhw fel llew, neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syrthiaf arnynt fel arth wedi colli ei chenawon, rhwygaf gnawd eu mynwes, ac yno traflyncaf hwy fel llew, fel y llarpia anifail gwyllt hwy.