Hosea 14:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy Asyria ddim yn gallu'n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‛ein duwiau‛ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy'n garedig at yr amddifad!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni all Asyria ein hachub, ac ni farchogwn ar geffylau; ac wrth waith ein dwylo ni ddywedwn eto, 'Ein Duw'. Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd."