Hosea 14:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd gan Effraim ddim i'w wneud ag eilunod byth eto! Bydda i'n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano. Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd, bydda i'n rhoi ffrwyth i chi drwy'r flwyddyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod? Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir. Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog; oddi wrthyf y daw dy ffrwyth."