Hosea 14:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a'i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr ARGLWYDD, a'r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy sy'n ddoeth? Bydd e'n deall. Pwy sy'n gall? Bydd e'n gwybod. Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn — bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn, ond y rhai sy'n gwrthryfela yn baglu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn; pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded. Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir; rhodia'r cyfiawn ynddynt, ond meglir y drygionus ynddynt.