Hosea 2:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o'r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn, dw i'n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi, a troi Dyffryn y Drychineb yn Giât Gobaith Bydd hi'n canu fel pan oedd hi'n ifanc, pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhof iddi yno ei gwinllannoedd, a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith. Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid, fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.