Hosea 2:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a'th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dy gymryd di'n wraig i mi am byth. Bydda i'n dy drin di'n deg, yn gyfiawn, ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'th ddyweddaf mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddaf mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd.