Hosea 3:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu DUW, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr ARGLWYDD a'i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn yn y dyfodol bydd pobl Israel yn troi yn ôl at yr ARGLWYDD eu Duw a'u brenin o deulu Dafydd. Bryd hynny byddan nhw'n plygu i'r ARGLWYDD a'i barchu, ac yn profi eto mor dda ydy e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi hyn, bydd plant Israel yn troi eto i geisio'r ARGLWYDD eu Duw a Dafydd eu brenin, ac yn troi mewn braw yn y dyddiau diwethaf at yr ARGLWYDD ac at ei ddaioni.