Hosea 4:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl‐darth, dan y dderwen, a'r boplysen, a'r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a'ch gwragedd a dorrant briodas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n aberthu ar gopa'r mynyddoedd, a llosgi arogldarth ar ben y bryniau — dan gysgod hyfryd rhyw dderwen, coeden boplys neu derebinth. A'r canlyniad? Mae eich merched yn buteiniaid, a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent yn aberthu ar bennau'r mynyddoedd, ac yn offrymu ar y bryniau, o dan y dderwen, y boplysen a'r terebinth am fod eu cysgod yn dda. "Am hynny, y mae eich merched yn puteinio a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu.