Hosea 4:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth‐afen; ac na thyngwch, Byw yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er dy fod ti, O Israel, yn godinebu, boed i Jwda osgoi pechu. Paid mynd i gysegr Gilgal! Paid mynd i fyny i Beth-afen! Paid tyngu llw, ‘Fel mae'r ARGLWYDD yn fyw …’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Er i ti buteinio, Israel, na fydded Jwda'n euog. Peidiwch mynd i Gilgal, nac i fyny i Beth-afen, a pheidiwch thyngu, 'Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw.'