Hosea 4:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybodaeth, minnau a'th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dy DDUW, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fy mhobl yn cael eu dinistrio am nad ydyn nhw'n fy nabod i. Dych chi offeiriaid ddim eisiau fy nabod i, felly dw i ddim eisiau chi yn offeiriaid. Dych chi wedi gwrthod dysgeidiaeth eich Duw felly dw i'n mynd i wrthod eich plant chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth; am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi; am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.