Hosea 5:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan welodd Effraim ei lesgedd, a Jwda ei archoll; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad, ac a hebryngodd at frenin Jareb: eto ni allai efe eich meddyginiaethu, na'ch iacháu o'ch archoll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Effraim ei fod yn sâl, a Jwda'n gweld ei ddolur, dyma Effraim yn troi at Asyria am help gan ‛y brenin mawr‛. Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu. Fydd e ddim yn gwella dy glwyf!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau, aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr; ond ni all ef eich gwella na'ch iachu o'ch doluriau.