Hosea 7:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samaria: canys gwnânt ffalster; a'r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dw i eisiau iacháu Israel. Ond mae pechod Effraim yn y golwg, a drygioni Samaria mor amlwg. Maen nhw mor dwyllodrus! Mae lladron yn torri i mewn i'r tai, a gangiau'n dwyn ar y strydoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
" Pan ddymunaf adfer llwyddiant fy mhobl ac iachu Israel, datguddir camwedd Effraim a drygioni Samaria, oherwydd y maent yn ymddwyn yn ffals; y mae lleidr yn torri i mewn, ysbeiliwr yn anrheithio ar y stryd.