Hosea 7:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a'u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn nhw ddim yn sylweddoli fy mod i'n gweld y drwg i gyd. Mae eu drygioni fel baw drostyn nhw — dw i'n ei weld o flaen fy llygaid!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni; y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas, y maent yn awr ger fy mron.