Hosea 7:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw i gyd yn godinebu! Maen nhw fel popty crasboeth — does dim rhaid i'r pobydd brocio'r tân tra mae'n tylino'r toes, na pan mae'n cael ei bobi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd, nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi.