Hosea 9:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal‐peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd‐dra fel y carasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd darganfod Israel fel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch. I mi, roedd dy hynafiaid fel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys. Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor, a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus — cyn pen dim aethon nhw mor ffiaidd â'r eilun roedden nhw'n ei addoli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais hyd i Israel; fel blaenffrwyth ar ffigysbren newydd y gwelais eich tadau. Ond aethant i Baal-peor, a'u rhoi eu hunain i warth eilun; ac aethant mor ffiaidd gwrthrych eu serch.