Hosea 9:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o'm tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal, dw i'n eu casáu nhw. Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tir o achos eu holl ddrygioni. Dw i ddim yn eu caru nhw bellach; mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn Gilgal y mae eu holl ddrygioni; yno'n wir y rhois fy nghas arnynt. Oherwydd eu gweithredoedd drygionus, gyrraf hwy allan o'm tu375?. Ni charaf hwy ychwaneg; gwrthryfelwyr yw eu holl dywysogion.