Hosea 9:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid offrymant win i'r ARGLWYDD, a'u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r ARGLWYDD, nac offrymu aberthau iddo. Bydd yr aberthau'n aflan, fel bwyd pobl sy'n galaru; bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru. Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig; fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni thywalltant win yn offrwm i'r ARGLWYDD, ac ni fodlonir ef 'u haberthau; byddant iddynt fel bara galarwyr, sy'n halogi pawb sy'n ei fwyta. Canys at eu hangen eu hunain y bydd eu bara, ac ni ddaw i du375?'r ARGLWYDD.