Hosea 9:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a'u casgl hwynt, Memffis a'u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr, bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw, a Memffis yn eu claddu nhw. Bydd chwyn yn chwennych eu trysorau a mieri'n meddiannu eu tai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys wele, ffoant rhag dinistr; bydd yr Aifft yn eu casglu, a Memffis yn eu claddu; bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian, a drain fydd yn eu pebyll.