Isaiah 1:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoch lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fyddwch chi'n codi'ch dwylo i weddïo, bydda i'n edrych i ffwrdd. Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi, ond fydda i ddim yn gwrando. Mae gwaed ar eich dwylo chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ledwch eich dwylo mewn gweddi, trof fy llygaid ymaith; er i chwi amlhau eich ymbil, ni fynnaf wrando arnoch. Y mae eich dwylo'n llawn gwaed;