Isaiah 1:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau, ddaear: canys yr ARGLWYDD a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i'm herbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwranda nefoedd! Clyw ddaear! Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i wedi magu plant a gofalu amdanyn nhw — ond maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clyw, nefoedd! Gwrando, ddaear! Oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD: "Megais blant a'u meithrin, ond codasant mewn gwrthryfel yn f'erbyn.