Isaiah 1:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain. Roedd hi'n ddinas ffyddlon, yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn. Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi — ond bellach llofruddion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O fel yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! Bu'n llawn o farn, a thrigai cyfiawnder ynddi, ond bellach llofruddion.