Isaiah 1:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd, cadarn DDUW Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma mae'r Meistr yn ei ddweud (yr ARGLWYDD holl-bwerus), Arwr Israel! — “O! bydda i'n dangos fy nig i'r rhai sy'n fy erbyn! Bydda i'n dial ar fy ngelynion!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, medd yr ARGLWYDD, ARGLWYDD y Lluoedd, Cadernid Israel, "Aha! Caf fwrw fy llid ar y rhai sy'n fy mlino, a dialaf ar fy ngelynion.