Isaiah 1:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr ARGLWYDD, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O! druan ohonot ti'r wlad sy'n pechu! Pobl sy'n llawn drygioni! Nythaid o rai sy'n gwneud drwg! Plant pwdr! Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, A dirmygu Un Sanctaidd Israel, Maen nhw wedi pellhau oddi wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O genhedlaeth bechadurus, pobl dan faich o ddrygioni, epil drwgweithredwyr, plant anrheithwyr! Y maent wedi gadael yr ARGLWYDD, wedi dirmygu Sanct Israel, a throi cefn.