Isaiah 1:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I ba beth y'ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a'r holl galon yn llesg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pam dych chi'n dal ati i wrthryfela? Ydych chi eisiau cael eich curo eto? Mae briwiau ar bob pen a'r corff yn hollol wan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I ba ddiben y trewir chwi mwyach, gan eich bod yn parhau i wrthgilio? Y mae eich pen yn ddoluriau i gyd, a'ch holl galon yn ysig;