Isaiah 10:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn, ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl: fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n dwyn cyfiawnder oddi ar bobl dlawd, a chymryd eu hawliau oddi ar yr anghenus. Maen nhw'n dwyn oddi ar y gweddwon, ac yn ysbeilio plant amddifad!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i droi'r tlodion oddi wrth farn, ac amddifadu'r anghenus o blith fy mhobl o'u hawliau; i wneud gweddwon yn ysbail iddynt a'r rhai amddifad yn anrhaith.